
Gwersyll Whizz-Kidz
Skip to Section Navigation ↓Gwersylloedd preswyl
Mae Whizz-Kidz yn darparu gwersylloedd preswyl byr ar gyfer pobl ifainc anabl. Mae Gwersyll Whizz-Kidz wedi’i ffurfio ar gyfer pobl ifainc rhwng 14 a 25 oed ac sy’n defnyddio cadair olwyn neu offer symud o gwmpas neu sydd ag anabledd corfforol.
Mae pob gwersyll yn para tri diwrnod a dwy noson ac yn dod ag elfennau allweddol holl raglenni hyfforddi Whizz-Kidz at ei gilydd. Mae pobl ifainc sy’n mynd i wersyll yn cael cyfle i ddysgu amrediad o fedrau fel: medrau cadair olwyn, hyfforddiant pendantrwydd, cyllidebu, siopa, coginio a heriau tîm. Mae cyfranogwyr hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol eraill fel drama, chwaraeon, cyfarfod â phobl sy’n esiampl ysbrydoledig a pharti caraoce gyda thema.
Ym mhob gwersyll mae gennym ni staff gofal ddydd a nos i roi cefnogaeth gydag unrhyw ofal personol a/neu feddyginiaeth. Rydyn ni’n gweithio’n agos iawn gyda theuluoedd i sicrhau bod y lefel iawn o ofal yn cael ei roi fel bo pobl ifainc yn cael mwynhau rhaglen hyfforddi amrywiol, llawn hwyl.
Yr hyn rydych chi’n ei ddweud
Dywed Aaron: ‘Mae siopa’n annibynnol yn rhywbeth dydw i erioed wedi’i wneud o’r blaen ac fe aeth hynny’n dda iawn ac rydw i wedi bod yn annibynnol iawn ac wedi cyflawni fy nod tymor byr. Rydw i’n meddwl bod popeth arall wedi bod yn union fel y dylai ac rydw i wir wedi mwynhau fy amser. Rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd hefyd.’
Dywed Christian: ‘Fy atgof mwyaf fyddai gwneud y ddinas sbwriel oedd yn rhan o’r sesiwn ymgyrchu. Fe ddysgais am hawliau dynol yn y sesiwn hwn, oedd yn ddefnyddiol.’
Dywed mam Ian: ‘Rydw i wedi fy synnu o weld pa mor dda oedd y gwasanaeth. Roedd maint yr wybodaeth a gasglwyd gan y trefnwyr a’r ffordd yr oedden nhw’n gwrando ar yr hyn roedden ni’n ei ddweud yn allweddol i wneud iddo weithio ar gyfer plentyn cymhleth iawn. Roedd y cyfle iddo fod yn annibynnol ar y rhai sy’n ei adnabod yn rhywbeth dydyn ni erioed wedi cael ei gynnig o’r blaen.’
Sut rydw i’n cofrestru ar gyfer Gwersyll Whizz-Kidz?
Mae gwersylloedd yn hollol rad ac am ddim a does dim llawer o leoedd! Os hoffech chi wneud cais i fynd i Gwersyll Whizz-Kidz, a wnewch chi gofrestru gan ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod.
Cysylltu â Gwersyll Whizz-Kidz
Mae gwersylloedd yn hollol rad ac am ddim a does dim llawer o leoedd, felly os oes gennych chi ddiddordeb cysylltwch â thîm Gwersyll Whizz-Kidz ar:
Ffôn: 0800 151 3350 (rhadffôn trwy linell tir)
E-bost: ambassadors@whizz-kidz.org.uk